Llan A'r Bryn

Home FAQ
Plaid Cymru Cymraeg
Plaid Cymru

PLAID CYMRU – CANGEN LLANGENNECH

 
Dewi Sant
Mae tiriogaeth y gangen lwyddiannus hon yn ymestyn dros ardal Llangennech a’r Bryn.

Mae’r gangen yn cyfarfod am 7.00yh ar y dydd Mawrth cyntaf o bob mis (heblaw mis Awst) yng Nghanolfan Cymuned Llangennech.


Swyddogion y gangen yw:


Cadeirydd: Dr Chris Slader

Ysgrifennydd: Gwyn Hopkins

Trysorydd: Pam Bevan


Adlewyrchir llwyddiant y gangen gan y ffaith fod deg o’r deuddeg aelod o Cyngor Cymuned Llangennech yn aelodau o’r gangen, sef y Cynghorwyr


Pam Bevan,  Glendon Davies,  Ken Evans,  Bill Griffiths,  Dian Hopkins,  Gwyn Hopkins,  Chris Slader, Marian Slader,  Gwyneth Thomas  ac  Ian Williams.


Yn ogystal, mae dau aelod ward Llangennech ar Gyngor Sir Caerfyrddin yn aelodau o’r gangen - Gwyneth Thomas a Gwyn Hopkins.


Gellir cysylltu â’r gangen drwy’r Ysgrifennydd; Ffôn: 01554 820249: E-bost: This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it

 

Disgrifiad cryno o natur Plaid Cymru.


Yn ei hanfod, mudiad/sefydliad sy’n ymroddedig i Gymru yw Plaid Cymru sy’n cynnwys pobl sydd - bennaf oll - yn meddu teyrngarwch ac ymrwymiad diwahân i Gymru.  Mae hi’n blaid wleidyddol oherwydd dyma’r modd mwyaf effeithiol i hyrwyddo’i chredo, sef gweld cynnydd mewn ffyniant a lles pobl Cymru a chryfhau’r hunaniaeth genedlaethol Gymreig.  Mae gan y Blaid ymrwymiad i hyrwyddo'r rhain beth bynnag fo’r amgylchiadau gwleidyddol cyfredol.  Fodd bynnag, cred y byddai cymryd cyfrifoldeb am fwy o faterion ein gwlad drwy drawsnewid Cynulliad Cenedlaethol i Senedd go iawn - fel un yr Alban - yn rhoi hwb i’r tebygrwydd o gyrraedd ei nodau.   

Mae’r Blaid yn eiddigeddus o nifer sylweddol o wledydd bychain, ffyniannus eraill yng ngorllewin Ewrop sy’n rheoli’u hunain mor llwyddiannus (megis Luxembourg, Denmarc ac Iwerddon), ac y mae llawer o aelodau Plaid Cymru yn argyhoeddedig mai dim ond trwy sefydlu “Cymru Annibynnol” y gellir cyflawni ei nodau’n gyflawn.  Felly, mae gweld Cymru yn cymryd ei lle fel cenedl falch, annibynnol, o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn ddeheuad hirdymor y Blaid.

Gyda’r cyfryngau yng Nghymru yn ddiau o blaid yr Undeb (fel y sustem addysg), nid yw’n syndod bod y cyflyru hwn o’r cyhoedd yn sicrhau bod yr opsiwn hwn ddim ar y gorwel ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, gyda dim ond 5% o boblogaeth y DU a 5% o’r Aelodau Seneddol, mae’n amlwg nad yw llywodraeth y DU byth yn mynd i flaenoriaethu Cymru.  Nid ydym ar eu hagenda.

Wrth gwrs, mae Plaid Cymru yn llwyr gydnabod mai dim ond os, a phan, fydd pobl ein gwlad yn dymuno i Gymru fod yn wlad “annibynnol”, a phleidleisio drosto, y gall hyn ddigwydd.  P’un ai bydd hyn yn digwydd rhywdro neu beidio, am amser i ddod mae gwir angen inni gael ein cynrychioli gan ragor o Aelodau Seneddol Plaid Cymru sy’n wir ymroddedig i Gymru, unigolion y gellir ymddiried ynddynt i frwydro dros ein hanghenion.  Yn sicr, ni ellir disgwyl hyn gan Aelodau Seneddol y pleidiau “Prydeinig”, oherwydd amheus iawn yw eu hymrwymiad i Gymru am fod eu teyrngarwch wedi’i rannu’n llwyr rhwng Cymru a’u pleidiau gwleidyddol canolog sydd â’u canolfannau yn Llundain, gyda lles Cymru yn dod yn ail sâl yn eu golwg.