|

Ar nos Lun Ionawr 4ydd bu farw’r hanesydd a’r awdur Hywel Teifi Edwards ar ôl salwch byrdymor. Yr oedd yn 75 mlwydd oed.
Fe’i anwyd yn Llanddewi Aberarth, Ceredigion a bu’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Aberaeron cyn astudio ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Cwrddodd ei wraig, Aerona, yn dysgu yn Ysgol Ramadeg Garw, cyn dod yn ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Ysgrifennodd nifer o lyfrau Cymraeg gan arbenigo yn hanes yr Eisteddfod a’r Oes Fictoraidd.
Mae ein meddyliau gydag Aerona, Huw, Meinir a’r wyrion yn ystod yr adeg anodd yma.
Historian and author Hywel Teifi Edwards sadly passed away Monday night aged 75 after a short illness.
He was born in Llandewi Aberarth, Ceredigion and attended Aberaeron Grammar School before studying at the University College of Wales in Aberystwyth. He met his wife, Aerona, when teaching at Garw Grammar School before becoming a lecturer in Welsh literature at the University of Wales in Swansea. He also wrote many books in Welsh, specialising in the history of The Eisteddfod and the Victorian Age.
Our thoughts are with Aerona, Huw, Meinir and the grand children at this difficult time.
'Mae heddiw'n ddiwrnod trist iawn. Roedd Hywel yn ffrind da iawn, ac fel nifer o aelodau ieuengach Plaid Cymru, mi ddysgais i gymaint ganddo ef. Roedd yn ysbrydoliaeth enfawr i mi, ac mi wnai fethu ei gynhesrwydd a'i hiwmor yn ofnadwy. Mae'n golled fawr i'n cymuned ni yma yn Llanelli ac i Gymru, ond wrth gwrs yn llawer fwy o golled i'w deulu annwyl. Rwy'n siwr ein bod ni gyd yn meddwl amdanynt yn ystod yr amser trist ac anodd yma.' - Helen Mary Jones
'Roedd cyfraniad Yr Athro Hywel Teifi Edwards yn amrhisiadwy o les y Gymraeg a’i freuddwyd ef oedd gweld y Gymraeg ar dafodau plant a phobl ifanc ar lefel gymunedol.' - Deris Williams (Menter Cwm Gwendraeth)
|
Cawr ym mhob ystyr oedd Hywel Teify,annwyl a charismatig.Llefarai yn ddi- ymdrech am fod ganddo neges Gristnogol,Gymraeg i'w genhedllaeth.Cefais y fraint o chwarae yn ei erbyn ar gae pel-droed Aberaeron 58 mlynedd yn ol =Ysgol Sir Tregaron yn erbyn Ysgol Sir,Aberaeron.Mwynheais yn fawr ei folawd i Gapel Bryn Seion,Llangennech ac yn arbennig ei deyrnged i'r annwyl dduwiol was y Parchedig Idris Lewis,Llechryd a fagwyd yn y fro, ac yr wyf yn mawrygu fy nghyfeillgarwch a'i fab galluog Huw ar ei gampwaith Capeli Llanelli.