Llan A'r Bryn

Home
Yr Athro Hywel Teifi Edwards

hywelteifi.jpgAr nos Lun Ionawr 4ydd bu farw’r hanesydd a’r awdur Hywel Teifi Edwards ar ôl salwch byr. Yr oedd yn 75 mlwydd oed.

 
Fe’i anwyd yn Llanddewi Aberarth, Ceredigion a bu’n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Aberaeron cyn astudio ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Cwrddodd ei wraig, Aerona, yn dysgu yn Ysgol Ramadeg Garw, cyn dod yn ddarlithydd mewn Llenyddiaeth Cymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe. Ysgrifennodd nifer o lyfrau Cymraeg gan arbenigo yn hanes yr Eisteddfod a’r Oes Fictoraidd.
 
Mae ein meddyliau gydag Aerona, Huw, Meinir a’r wyrion yn ystod yr adeg anodd yma.
 
Mae heddiw'n ddiwrnod trist iawn. Roedd Hywel yn ffrind da iawn, ac fel nifer o aelodau ieuengach Plaid Cymru, mi ddysgais i gymaint ganddo ef. Roedd yn ysbrydoliaeth enfawr i mi, ac mi wnai fethu ei gynhesrwydd a'i hiwmor yn ofnadwy. Mae'n golled fawr i'n cymuned ni yma yn Llanelli ac i Gymru, ond wrth gwrs yn llawer fwy o golled i'w deulu annwyl. Rwy'n siwr ein bod ni gyd yn meddwl amdanynt yn ystod yr amser trist ac anodd yma.
                                                                                                Helen Mary Jones
                                   
 
Roedd cyfraniad Yr Athro Hywel Teifi Edwards yn amrhisiadwy er lles y Gymraeg a’i freuddwyd ef oedd gweld y Gymraeg ar dafodau plant a phobl ifanc ar lefel gymunedol.
 
                                                            Deris Williams (Menter Cwm Gwendraeth)
 
Comments (0)
Write comment
Your Contact Details:
Comment:
[b] [i] [u] [url] [quote] [code] [img]   
:angry::0:confused::cheer:B):evil::silly::dry::lol::kiss::D:pinch:
:(:shock::X:side::):P:unsure::woohoo::huh::whistle:;):S
:!::?::idea::arrow:
Security
Please input the anti-spam code that you can read in the image.