Llan A'r Bryn

Home
Newyddion Bethesda

Mwynhawyd cwrdd buddiol wrth i ni gynnal ein cyfarfod diolchgarwch. Y gwasanaeth yng ngofal y gweinidog ag yn naturiol yn cael ei hoelio ar y thema o ddiolch , a'r emynau yn atseinio'r prif destun - canu mawl am Ffrwythlondeb y ddaear a bendithion bywyd (cyfeilydd Geraint Williams) ; ac i harddu'r olygfa arddangosiad hyfryd o ffrwythau a llysiau. Cyfraniad gwerthfawr gan y plant - cyflwyniad effeithiol wrth iddynt ddefnyddio cardiau lliwgar i gadarnhau'r neges . Hefyd caeuon bywiog , yna eitem unigol oddiwrth Fflur James sef adroddiad graenus ; nesaf cawsom eu hadnodau. Cydnabyddiaeth i'r athrawon a'r rhieni o ran cyfarwyddyd a chefnogaeth ; ac i gwblhau adran y plant mynegodd y gweinidog wers pwrpasol . Gweddill yr oedfa ar gyfer yr oedolion ; offrymodd Margaret Harries y weddi . Bellach i gloi'r achlysur cyfres o ddarlleniadau o'r Ysgrythur gan y gweinidog , Keith Thomas , Margaret Lee , a'r llefarwyr trwy myfyrdod yn ymhelaethu ar y datganiadau. 'Nôl ein harfer casglwyd reis a phasta tuag at Apêl Romania , hefyd rhoddion ariannol;eto eleni ymateb hael at achos teilwng.Dudd Sul nesaf , Cymun dan ofal y Gweinidog.

Comments (0)
Write comment
Your Contact Details:
Comment:
[b] [i] [u] [url] [quote] [code] [img]   
:angry::0:confused::cheer:B):evil::silly::dry::lol::kiss::D:pinch:
:(:shock::X:side::):P:unsure::woohoo::huh::whistle:;):S
:!::?::idea::arrow:
Security
Please input the anti-spam code that you can read in the image.