|
Home
|
Cawsom cyfarfod bendithiol pan gynhaliwyd oedfa diolchgarwrch undebol. Y gwasanaeth dan lywyddiaeth y Gweinidog a dewisiad yr emynau yn adleisio'r moliant o'r greadigaeth a'r cynhaeaf ( cyfeilydd Allan Fewster ). Parch Geraint Morse oedd y siaradwr gwadd a'i gyflwyniad yn un pwerus wrth iddo osod cwestiwn trawindol - beth yw ymateb dyn mewn argyfwng . Cyfeiriodd at y proffwyd Habacuc i cyfnod o fethiant llwyr yn y cynnyrch , ond pwysodd ar ei berthynas personol a Duw a'i ymddiriedaeth mewn rhagluniaeth dwyfol . Bellach darlleniad o efengyl Ioan i nodi'r gwirioneddau sylfaenol yn nysgeidiaeth Iesu - pwysigrwydd ymborth mewnol i maethu'r galon a'r enaid , sef cynhaliaeth tragwyddol. Sylwadau terfynol yn ategu cred cadarn a ffydd yn Nuw fel iachawdwr.
|
|