|
Fy enw i yw Siân Phillips ac rwyf yn gweithio i Menter Cwm Gwendraeth yn ardal Llanelli. Dechreuais y swydd ym mis Hydref 2009 ac ers hynny rwyf wedi ceisio hybu ac ymestyn diwylliant y dref i drigolion Llanelli yn ogystal ag ymwelwyr i’r dref trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Rydw i wrthi ar hyn o bryd yn dechrau gwneud ymchwil ar “Llanelli Gudd”.
Teimlaf fod digon o gyhoeddusrwydd wedi bod a marchnata wedi ei wneud i atyniadau twristiaeth y dref gan gynnwys Parc Trostre, Parc y Scarlets a Pharc Arfordirol y Mileniwm.
Hoffwn gael barn trigolion Llanelli ynglŷn â llefydd gwahanol, cyffrous yn yr ardal nad oes neb lawer yn gwybod amdanynt. Gall y rhain fod yn llefydd o brydferthwch naturiol neu hyd yn oed rhywbeth mor syml â thafarn neu fwyty arbennig sydd yn adlewyrchu ysbryd cyfeillgar trigolion y dref.
Fy mwriad i ar ôl casglu’r adborth yma yw ceisio creu trac sain i Lanelli er mwyn i ymwelwyr a thrigolion y dref gyhyd allu teithio o amgylch Llanelli gan aros mewn mannau o bwys wrth ystyried diwylliant y dref a chlywed sylwebaeth ddwyieithog am y mannau yma.
Hoffwn i’r trac sain yma gynnwys eich adborth chi, fel mudiadau a thrigolion y dref, ynglyn â mannau cudd pwysig yn Llanelli er mwyn gallu rhoi mewnwelediad i ymwelwyr o gyffro a phrydferthwch y gwir Llanelli.
Byddwn yn ddiolchgar iawn petaech yn gallu enwebu lle i fod yn rhan o "Llanelli Gudd" naill ai drwy ysgrifennu "comment" ar yr erthygl yma neu e-bostio
This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it
Hoffwn ddiolch yn fawr i chi am eich cydweithrediad ac edrychaf ymlaen i rhannu eich profiadau.

|
Mae'n swnio'n gynllun cyffrous. Dw i'n deall mai eisiau annog pobl i gyfrannu ydych chi, ond pan dw oi'n cwhilio am ddelweddau diddorol am le penodol, dw i'n hoffi chwilio ar wefan rhannu lluniau Flickr. Mae rhai pobl caredig yn llwytho lluniau arno o dan drwydded Creative Commons sy'n golygu bod gan unrhyw un hawl i'w hail-ddefnyddio. Dyma luniau o Lanelli o dan y drwydded: http://www.flickr.com/search/?q=llanelli&l=4&s=int
Mae;'n dda bod gan y Fenter golofn Cymraeg ar y wefan yma - er mwyn denu mwy o ddarllenwyr at eich colofn, beth am ofyn os caiff eich RSS (http://www.llanarbryn.co.uk/colofn-menter.feed?ty pe=rss) ar wefan www.blogiadur.com?