|
Mae cyfle gwych wedi codi i ddysgu Cymraeg Sylfaenol gyda Menter Cwm Gwendraeth Llanelli. Rydym yn bwriadu cynnal dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion yn ein swyddfeydd yn Llynnoedd Delta Llanelli yn dibynnu ar ddiddordeb. Bydd y dosbarthiadau yn cael eu cynnal rhwng 7-9yh ar noson sydd eto i'w drefnu. Mi fydd yn gyfle gwych i i'r rheini sydd am ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u gwaith a'u bywyd dyddiol i ddysgu rhai ymadroddion cyffredin ac hefyd i rhieni ifanc ddysgu brawddegau sylfaenol petai eu plant mewn ysgol Gymraeg. Os hoffech fynychu diddordeb yn y dosbarthiadau, cysylltwch â Siân ar 01554 755994.
|