|
Mae Menter Cwm Gwendraeth Llanelli yn cynnal Cyngerdd Gŵyl Ddewi yng nghapel Als, Llanelli, ar nos Fawrth Mawrth 23ain i godi arian i Ysgol Heol Goffa. Bydd eitemau yn cael eu cynnig gan Gôr Scarlets, yr unawdydd Karen Powell, Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Ysgol Ffwrnes, Ysgol Gyfun y Strade, Ysgol Parc y Tywyn ac Ysgol Gymraeg Brynsierfel. Bydd y noson yn dechrau am 7yh a phris y tocynnau fydd £5. Bydd te, coffi a chacen yn gynwysedig yn y pris! Tocynnau ar gael gyda’r ysgolion neu’r Fenter. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â 01554 755994.
|