|
Yn dilyn y diddordeb a fu yn y sesiynau Yoga dwyieithog a drefnwyd gan Menter Cwm Gwendraeth Llanelli ar y cyd â mudiad Padmasambhava dros yr wythnosau diwethaf, rydym am gynnal y dosbarthiadau ar ôl y Nadolig. Mi fydd y dosbarthiadau dwyieithog yn cael eu cynnal ar nos Fawrth rhwng 7.15 yr hwyr a 8.45 yr hwyr yn dechrau ar Ionawr 19eg 2010 yng Nghanolfan Gymunedol Llangennech. Mae’r dosbarthiadau yn addas i’r rheiny sydd ag ychydig neu hyd yn oed dim profiad yn y ddisgyblaeth a hefyd i’r rheiny sydd yn rhugl, yn dysgu neu ond yn deall ychydig o Gymraeg. Y pris am y 4 sesiwn cychwynnol o 90 munud fydd £24. Ffordd gwych i adennill eich ffitrwydd ar ôl y Nadolig! Os hoffech fwy o wybodaeth, cysylltwch â Siân ar 01554 755994 neu Norman ar 01558 823842.
|