|
Ar nos Wener Rhagfyr 11eg, trefnodd Menter Cwm Gwendraeth Llanelli daith i wŷl Nosweithiau Nadolig a gynhaliwyd yn Sain Ffagan. Mi roedd y bws mini a drefnwyd yn llawn gydag amryw o bobl - siaradwyr rhugl yn y Gymraeg, dysgwyr, a chafwyd dwy ferch o Ffrainc a hoffai ddysgu mwy am draddodiadau Cymreig yn cadw cwmni i ni! Mi roedd yn noswaith fendigedig gyda’r mynychwyr yn cael y cyfle i ganu carolau yng nghapel Pen-Rhiw, blasu medd yn Sefydliad y Glowyr, clywed siantau canoloesol yn eglwys Sant Teilo a mwynhau’r awyrgylch Nadoligaidd gyda brechdan twrci a stwffin! Hoffai Menter Cwm Gwendraeth Llanelli ddiolch yn fawr i bawb a fynychodd ac o ganlyniad i’w lwyddiant, gobeithiwn gynnal y trip yn flynyddol.
  
|
http://www.llanarbryn.co.uk/ gallery/category/8-sain-ffagan.html Cliciwch ar y linc i gweld y lluniau yn y gallery.