Llan A'r Bryn

Home Tudalen Menter Cyflwyniad Menter Cwm Gwendraeth Llanelli
Error
  • Request Forbidden
Cyflwyniad Menter Cwm Gwendraeth Llanelli

 

Sefydlwyd Menter Cwm Gwendraeth yn 1991 fel cynllun peilot yma yng NghwmGwendraeth. O'r cychwyn cyntaf rhoddwyd pwyslais mawr ar y gymuned gan gynnwys trigolion lleol yn holl trefniant gweithgarwch y Fenter. Ers 1998 mae Menter Cwm Gwendraeth wedi bod yn gweithio'n strategol ar sail Fframwaith Cynllunio Cymunedol y Cynulliad a Chyngor Sir Gaerfyrddin gan ddatblygu prosiectau ym maes Iechyd a Lles, Adfywio Cymunedol, yr Amgylchedd, Addysg Gydol Oes, Diogelwch Cymunedol a Phlant a Phobl Ifanc gan sicrhau bod y Gymraeg yn llorweddol yn natblygiad pob prosiect.
Mae unrhyw asiantaeth gymunedol yn wynebu heriau'n rheolaidd a'r her fwyaf sydd yn wynebu Menter Cwm Gwendraeth yw'r effaith economaidd sydd yn creithio ein cymunedau ac yn eithrio pobl yn gymdeithasol.Ar hyn o bryd mae Menter Cwm Gwendraeth yn datblygu ei rôl Menter Cymdeithasol ac yn mynd ati i ddenu cytundebau lefel gwasanaeth ar draws Sir Gar. Yn naturiol mae hyn yn golygu gweithio gyda phartneriaid allweddol gan gynnwys y Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cyngor Sir, Ymddiriedolaeth Iechyd, Prifysgolion,Sector Breifat a Gwirfoddol. Mae Menter Cwm Gwendraeth dros y blynyddoedd wedi datblygu isgwmnïau gweithredol gan gynnwys Caffi Cynnes caffi cymunedol sy'n cynnig gwasanaeth pump diwrnod yr wythnos, Cwtsh Glöyn siop lyfrau ac adnoddau Cymraeg, Cwmni Gwasanaethau sy'n cynnig cyfieithu ar y pryd ac ysgrifenedig ac hyfforddiant. Mae Menter Min Nos yn cynnig gwasanaeth gofal i henoed mewn partneriaeth a'r Ymddiriedolaeth Iechyd a Menter Plant y Cwm yn cynnig gwasanaethau clybiau gofal cofrestredig ar ôl ysgol ac adeg gwyliau.
 
Rwyf i, Sian Phillips, wedi gweithio i'r Fenter ers mis Hydref 2009 ac yn mwynhau yn fawr iawn. Dwi'n ceisio cynnal gynifer o ddigwyddiadau Cymraeg yn ardal Llanelli (ac yn benodol Llangennech gan fy mod newydd symud i'r ardal) ag sydd yn bosib gan ddod a gwaith da'r Fenter yma i Llangennech a'r cyffuniau. Hoffwn ddiolch yn fawr i Gareth am adael i mi ysgrifennu a chofnodi digwyddiadau ar y wefan. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i bawb!
Comments (0)
Write comment
Your Contact Details:
Comment:
[b] [i] [u] [url] [quote] [code] [img]   
:angry::0:confused::cheer:B):evil::silly::dry::lol::kiss::D:pinch:
:(:shock::X:side::):P:unsure::woohoo::huh::whistle:;):S
:!::?::idea::arrow:
Security
Please input the anti-spam code that you can read in the image.