Llan A'r Bryn

Home Tudalen Menter
Newyddion
Rhaglen "Jonathan" Cymru V Seland Newydd

Mae Menter Cwm Gwendraeth Llanelli yn trefnu trip i weld rhaglen Jonathan cyn gem Cymru vs. Seland Newydd ar Nos Lun Tachwedd 22ain.

Pris: Rhad ac am ddim

Bydd y bws yn gadael neuadd y dre Llanelli am 5 y.h.

Fe fydd peint am ddim ar ôl cyrraedd.

Os hoffech archebu tocynnau, cysylltwch â Siân ar 01554 755994

 

 
Llanelli Gudd

 

Fy enw i yw Siân Phillips ac rwyf yn gweithio i Menter Cwm Gwendraeth yn ardal Llanelli. Dechreuais y swydd ym mis Hydref 2009 ac ers hynny rwyf wedi ceisio hybu ac ymestyn diwylliant y dref i drigolion Llanelli yn ogystal ag ymwelwyr i’r dref trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Rydw i wrthi ar hyn o bryd yn dechrau gwneud ymchwil ar “Llanelli Gudd”.
 
Teimlaf fod digon o gyhoeddusrwydd wedi bod a marchnata wedi ei wneud i atyniadau twristiaeth y dref gan gynnwys Parc Trostre, Parc y Scarlets a Pharc Arfordirol y Mileniwm.
 
Hoffwn gael barn trigolion Llanelli ynglŷn â llefydd gwahanol, cyffrous yn yr ardal nad oes neb lawer yn gwybod amdanynt. Gall y rhain fod yn llefydd o brydferthwch naturiol neu hyd yn oed rhywbeth mor syml â thafarn neu fwyty arbennig sydd yn adlewyrchu ysbryd cyfeillgar trigolion y dref.
 
Fy mwriad i ar ôl casglu’r adborth yma yw ceisio creu trac sain i Lanelli er mwyn i ymwelwyr a thrigolion y dref gyhyd allu teithio o amgylch Llanelli gan aros mewn mannau o bwys wrth ystyried diwylliant y dref a chlywed sylwebaeth ddwyieithog am y mannau yma.
 
Hoffwn i’r trac sain yma gynnwys eich adborth chi, fel mudiadau a thrigolion y dref, ynglyn â mannau cudd pwysig yn Llanelli er mwyn gallu rhoi mewnwelediad i ymwelwyr o gyffro a phrydferthwch y gwir Llanelli.
 
Byddwn yn ddiolchgar iawn petaech yn gallu enwebu lle i fod yn rhan o "Llanelli Gudd" naill ai drwy ysgrifennu "comment" ar yr erthygl yma neu e-bostio This e-mail address is being protected from spambots. You need JavaScript enabled to view it
 
Hoffwn ddiolch yn fawr i chi am eich cydweithrediad ac edrychaf ymlaen i rhannu eich profiadau.

 
Hwyl i'r Teulu
Mae Menter Cwm Gwendraeth Llanelli yn trefnu Bore o Hwyl i'r teulu yng Nghanolfan y Selwyn Samuel Llanelli. Bydd y bore yn dechrau am 10am ac yn gorffen am 12pm. Bydd Sarah Jambori yn dod am 1030am i ddawnsio ac i ganu gyda'r plant. Bydd gweithgareddau eraill yno megis peintio gywnebau, gemau, chwaraeon. Pris mynediad bydd £1 i oedolion yn cynnwys tocyn raffl. Dewch yn llu.
 
Dosbarthiadau Cymraeg

Mae cyfle gwych wedi codi i ddysgu Cymraeg Sylfaenol gyda Menter Cwm Gwendraeth Llanelli. Rydym yn bwriadu cynnal dosbarthiadau Cymraeg i Oedolion yn ein swyddfeydd yn Llynnoedd Delta Llanelli yn dibynnu ar ddiddordeb. Bydd y dosbarthiadau yn cael eu cynnal rhwng 7-9yh ar noson sydd eto i'w drefnu. Mi fydd yn gyfle gwych i i'r rheini sydd am ddefnyddio'r Gymraeg fel rhan o'u gwaith a'u bywyd dyddiol i ddysgu rhai ymadroddion cyffredin ac hefyd i rhieni ifanc ddysgu brawddegau sylfaenol petai eu plant mewn ysgol Gymraeg.  Os hoffech fynychu diddordeb yn y dosbarthiadau, cysylltwch â Siân ar 01554 755994.

 
Dosbarthiadau Yoga yn ail-ddechrau

Mae’r dosbarthiadau yoga i ddechreuwyr yn ail-ddechrau ar ol gwyliau’r Pasg ar nos Fawrth Mai 4ydd rhwng 7.15 a 8.45yh yng Nghanolfan Gymunedol Llangennech. Mae’r dosbarthiadau wedi bod yn llwyddiant hyd yn hyn ond hoffen gael mwyn o aelodau i ymuno. Os hoffech fwy o wybodaeth neu i ymuno a’r dosbarth cysylltwch â 01554 755994.

 
<< Start < Prev 1 2 3 Next > End >>

Page 1 of 3